Nid ‘band un dyn’ yw David Cameron a rhaid iddo ddefnyddio rhagor o hoelion wyth ei blaid o hyn tan yr etholiad, yn ôl yr Arglwydd Tebbit, cyn-gadeirydd y Ceidwadwyr ac un o ffigurau amlycaf llywodraeth Margaret Thatcher yn yr 1980au.

Mewn llythyr agored at y cadeirydd presennol Eric Pickles, mae’r Arglwydd Tebbit yn rhybuddio nad oes llawer o amser ar ôl ar gyfer ennill a dywedodd fod angen ymosodiadau beiddgar ar wrthwynebwyr.

“Rhaid ichi ei berswadio [David Cameron] i ddefnyddio’i gefnogwyr selocaf, a hyd yn oed rai nad ydyn nhw efallai ei ffrindiau gorau, ond sy’n deyrngar i ethos y blaid, at ddiwedd yr ymgyrch.”

Dywedodd y gwleidydd dadleuol 79 oed nad oedd yn disgwyl i ddyn fel ef a oedd wedi bod yn gadeirydd ‘y blaid Thatcheraidd ffiaidd honno’ gael ‘fawr ddim dylanwad’.

“Fodd bynnag, dw i am geisio cynnig rhai awgrymiadau o’m hatgofion o’r dyddiau hynny pan nad oedd ond 13 neu 14 miliwn o etholwyr yn pleidleisio i’r Ceidwadwyr,” meddai.