Mae llanc 17 oed a gafodd ei arestio mewn cysylltiad â thân a laddodd ddau o blant mewn tŷ wedi cael ei ryddhau – ac mae’r heddlu wedi cadarnhau nad yw o dan amheuaeth bellach.
Bu farw Niamh, 5 oed, a Cayden Maynard, 2, mewn tân yn eu cartref yn Buxton, Swydd Derby nos Wener.
Roedd eu mam, Fiona Adams, 23 oed, wedi llwyddo i neidio allan yn ddiogel o ffenest llofft gyda’i mab wyth mis oed, Kiernan, a dywedwyd bod y ddau mewn cyflwr sefydlog mewn ysbyty ym Manceinion heddiw.
Roedd y llanc 17 oed wedi cael ei arestio’n gynnar fore ddoe, ac ar ôl ei holi mae’r heddlu wedi penderfynu na fydd unrhyw achos yn cael ei ddwyn yn ei erbyn.
“Ar ôl ymchwiliad trylwyr, dw i’n fodlon nad oes gan y bachgen 17 oed yma gysylltiad â’r tân,” meddai’r Prif Gwnstabl Cynorthwyol Steve Cotterill.
Gan ganmol pobl leol am eu cydweithrediad, dywedodd fod ymchwiliadau’r heddlu’n parhau ac apeliodd am ragor o wybodaeth.
Llun: Gweithwyr fforensig wrthi’n ymchwilio i achos y tân mewn ty yn Buxton, Swydd Derby (Ellen Branagh/Gwifren PA)