Dylai pobl sydd wedi cefnogi’r Blaid Lafur yn y gorffennol droi at Blaid Cymru yn yr etholiad hwn, yn ôl cyn-ysgrifennydd gwladol Cymru, Ron Davies.
Er i’r gwleidydd sydd wedi cael ei ddisgrifio fel ‘pensaer datganoli’ fod yn agos at Blaid Cymru ers blynyddoedd, hwn oedd y tro cyntaf iddo alw’n agored ar i bobl bleidleisio iddi.
“Bydd pob pleidlais dros Blaid Cymru yn yr etholiad yma’n bleidlais ar ran pobl Cymru,” meddai wrth rannu llwyfan gyda rhai o brif ffigurau Plaid Cymru, gan gynnwys Elfyn Llwyd, Ieuan Wyn Jones a Dafydd Iwan mewn rali yn Aberystwyth ddoe.
“Mae angen newid, a pho fwyaf o bleidleisiau y bydd Plaid Cymru’n ei gael, mwyaf fydd y cyfle i dynnu sylw at anghenion Cymru yn San Steffan.
Mae ei alwad yn cynrychioli taith wleidyddol hir i’r cyn-wleidydd Llafur a adawodd ei blaid yn 2004 ac a fu’n ymgeisydd mewn etholiad dros blaid fyrhoedlog Cymru Ymlaen yn y cyfamser.
Fyth ers y cyfnod yr oedd yn arwain yr ymgyrch dros ddatganoli a arweiniodd at y fuddugoliaeth o drwch blewyn yn refferendwm 1997, fe fu Ron Davies yn gyson fwy poblogaidd ymysg cefnogwyr Plaid Cymru nag ymysg llawer o’I gyd-aelodau Llafur.
Llun: Ron Davies yn annerch rali Plaid Cymru yn Aberystwyth ddoe