Y Seintiau Newydd yw pencampwyr Uwch Gynghrair Cymru am y pumed tro.
Fe wnaethon nhw sicrhau hynny drwy guro Aberystwyth yn gyfforddus o dair gôl i un heddiw.
Llanelli sydd wedi cael yr ail safle. Er iddyn nhw roi crasfa i Brestatyn, 1-5, doedd hynny ddim yn ddigon i’w codi i’r brig.
Dim ond gêm gyfartal oedd ei angen ar y Seintiau i sicrhau’r bencampwriaeth, gan eu bod nhw ddau bwynt o flaen Llanelli, ac mewn sefyllfa well o ran gwahaniaeth goliau.
Fe sgoriodd Chris Sharp ddwywaith i’r Seintiau Newydd ac fe gafodd Steve Evans un. Sgoriodd Luke Bowen i Aberystwyth.