Mae Abertawe wedi cwympo allan o’r safleoedd ail gyfle yn y Bencampwriaeth, ar ôl cael eu curo 0-2 gan Sheffield United.
Petai Abertawe wedi ennill, fe fasen nhw wedi sicrhau eu lle yn y chwech uchaf, ond mae eu gobeithion am gyrraedd y gemau ail gyfle yn awr allan o’u rheolaeth.
Bydd angen iddyn nhw guro Doncaster yn eu gêm nesaf ar ddiwrnod olaf y tymor, a gobeithio na fydd Blackpool – sydd yn awr yn y chweched safle ar ôl curo Peterborough heddiw – ddim yn curo Bristol City.
Methu sgorio
Er i Abertawe chwarae’n dda heddiw a chael sawl cyfle tuag at gôl, fe wnaethon nhw fethu sgorio – hanes y tymor iddyn nhw.
Fe ddylai Abertawe fod wedi cael cic o’r smotyn efallai yn ystod yr hanner cyntaf ar ôl trosedd ar Darren Pratley; ond cic rydd gawson nhw fymryn tu allan i’r cwrt cosbi.
Caerdydd
Enillodd Caerdydd 3-2 yn erbyn Sheffield Wednesday heddiw. Maen nhw yn y pedwerydd safle ac yn y gemau ail gyfle.