Mae Heddlu yn ardal Blaenau Ffestiniog yn apelio ar bobl i fod yn wyliadwrus ar ôl i ffisig gael ei ddwyn o siop fferyllydd yn yr ardal.

Roedd rhywun wedi torri i mewn i’r siop ar y Stryd Fawr ryw amser rhwng neithiwr a 7 o’r gloch y bore heddiw. Fe gafodd bwced mawr gwyrdd ei ddwyn a hwnnw’n llawn o gyffuriau sydd wedi mynd y tu hwnt i’w dyddiad gwerthu

Gall y moddion fod yn beryglus os bydd rhywun yn eu cymryd ac mae’r heddlu yn annog pobol i “beidio â’u cymryd o dan unrhyw amgylchiadau.”

Os bydd rhywun yn dod ar eu traws, mae’r heddlu’n gofyn iddyn nhw gysylltu â’r heddlu ar unwaith.

Mae ymholiadau i’r achos yn parhau ac fe ddylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â swyddogion yng Ngorsaf Heddlu Blaenau Ffestiniog ar 101 neu gyda Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111. Mae’n bosibl hefyd anfon neges destun at 66767.