Mae tua 50 o bobol wedi cael eu lladd, a thua 200 wedi cael eu hanafu, mewn cyfres o ffrwydradau yn Irac.

Yn ôl adroddiadau lleol, roedd tair bom wedi ffrwydro ger swyddfa clerigwr Shiaidd yn Baghdad. Fe gafodd o leiaf 25 o bobol eu lladd yno a 150 eu hanafu.

Roedd ffrwydradau eraill wedi lladd 19 yn y brifddinas ac yn y wlad, gan gynnwys bomiau y tu allan i dri mosg Shiaidd yn y brifddinas

Ymosodwyd ar wasanaethau diogelwch y wlad hefyd mewn ardal arall. Roedd bomiau wedi cael eu gosod o amgylch tai heddweision yn nhref orllewinol Khalidiya, lle cafodd saith eu lladd, gan gynnwys milwr o fyddin Irac.

Daw’r ffrwydradau ddiwrnodau wedi i awdurdodau Irac gyhoeddi fod dau o arweinyddion al Qaida wedi cael eu lladd.