Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau bod dau o bobl wedi’u harestio ar ôl i ddyn 29 oed ddioddef anafiadau difrifol i’w ben ym Mhenygroes, Gwynedd.
Mae’r heddlu’n credu fod y dyn wedi ei anafu yn sgil ymosodiad mewn maes parcio cyhoeddus gyferbyn â garej Povey ym Mhenygroes ar nos Sul, 18 Ebrill.
Ni chafodd yr Heddlu wybod am yr ymosodiad yn syth, ond ar ôl i gyflwr y dyn waethygu nos Lun fe ddaethon nhw i wybod am y digwyddiad.
Mae person 17 oed a dyn 19 oed wedi’u harestio ar amheuaeth o glwyfo ac mae’r ddau yn cael eu dal yn y ddalfa ar hyn o bryd.
Mae’r dyn 29 oed dal yn yr ysbyty. Mae o mewn cyflwr gwael ond sefydlog, meddai’r heddlu.
Mae’r heddlu’n parhau i apelio ar i unrhyw un a welodd y digwyddiad, neu unrhyw un sydd â gwybodaeth bellach i gysylltu â swyddogion CID ym Mangor ar 101 neu Taclo’r Taclau yn ddienw ar 0800 555 111.