Mae’r Llywodraeth wedi derbyn ergyd cyn yr etholiad wrth i’r ffigyrau diweithdra diweddaraf ddangos bod nifer y di-waith wedi codi i’w uchaf ers 16 mlynedd.
Mae 2.5 miliwn o bobol bellach allan o waith a nifer y bobol sy’n disgyn i ddosbarth yr ‘economaidd anweithgar’ ar ei uchaf erioed.
Yn ôl ffigyrau swyddogol cynyddodd diweithdra 43,000 yn y tri mis hyd Chwefror – ac roedd 10,000 o’r rheini yng Nghymru. Dyna’r ffigwr mwyaf ers 1994.
Cynyddodd diweithdra tymor hir, sef y rhai sydd wedi bod allan o waith ers dros flwyddyn, 89,000 i 726,000, y mwyaf ers i’r blaid Lafur ddod i rym yn 1997.
Cododd nifer y bobol sy’n ‘economaidd anweithgar’ – sy’n cynnwys myfyrwyr, pobol sy’n edrych ar ôl perthynas sâl, neu bobol sydd wedi rhoi’r gorau i chwilio am waith, 110,000 i 8.16 miliwn.
Dyna’r ffigwr gwaethaf ers i’r cofnodion ddechrau yn 1971, ac mae’n golygu bod mwy nag un ym mhob pump yn cael ei cynnwys ymysg yr ‘economaidd anweithgar’.
Mae hynny’n golygu mai dim ond 28.8 miliwn o bobol sydd bellach mewn gwaith, y nifer lleiaf ers diwedd 2005.
Cynyddodd cyflogaeth yn y sector gyhoeddus 7,000 rhwng mis Medi a mis Rhagfyr i 6.1 miliwn ond syrthiodd cyflogaeth yn y sector breifat 61,000 i 22.7 miliwn.
Diweithdra
Dyma’r ffigyrau diweithdra Prydain fesul gwlad neu ranbarth yn y tri mis rhwng Rhagfyr a Chwefror:
Cymru – 131,000, cynnydd o 10,000, 9.0%
Yr Alban – 208,000, cynnydd o 6,000, 7.8%
Gogledd Iwerddon – 53,000, lleihad o 1,000, 6.4%
Gogledd Ddwyrain Lloegr – 120,000, lleihad o 3,000, 9.5%
Gogledd Orllewin Lloegr – 290,000 cynnydd o 11,000, 8.5%
Swydd Efrog – 253,000, cynnydd o 13,000, 9.6%
Dwyrain Canolbarth Lloegr – 180,000, cynnydd o 13,000, 7.8%
Gorllewin Canolbarth Lloegr – 253,000, lleihad o 6,000, 9.5%
Dwyrain Lloegr, 198,000, cynnydd o 11,000, 6.6%
Llundain – 363,000, lleihad o 22,000, 8.9%
De Ddwyrain Lloegr – 284,000, cynnydd 11,000, 6.4%
De Orllewin Lloegr – 170,000, dim newid, 6.4%