Mae Morgannwg wedi enwi eu carfan 12 dyn ar gyfer gêm Pencampwriaeth y Siroedd yn erbyn Swydd Derby yfory.
Bydd James Harris yn cael ei orffwys yn dilyn y fuddugoliaeth yn erbyn Middlesex yn Lords.
Fe fydd naill ai Robert Croft neu Chris Ashling yn cymryd ei le yn y tîm.
Mae’r tair gêm olaf Morgannwg yn erbyn Swydd Derby ar y County Ground wedi gorffen â gemau cyfartal.
Fe ddaeth buddugoliaeth ddiwethaf y Dreigiau yn Derby yn 2006 pan sgoriodd Mark Cosgrove 233 o rediadau gan arwain at fuddugoliaeth o chwe wiced.
Carfan Morgannwg
Gareth Rees, Mark Cosgrove, Michael Powell, Jamie Dalrymple, Ben Wright, Jim Allenby, Mark Wallace, Robert Croft, David Harrison, Dean Cosker, Chris Ashling, Huw Waters.