Roedd tri o weithredwyr y BBC wedi gwario £12,000 ac dacsis rhyngddyn nhw mewn tri mis, yn ôl ffigyrau newydd.

Mae hynny’n gyfystyr â phris 87 trwydded, neu gost Citroen Xsara Picasso newydd.

Roedd y cyfanswm yn cynnwys £4,862 mewn costau teithio gan gyfarwyddwr gweledigaeth y BBC Jane Bennett.

RoeddJane Bennett, sy’n cael cyflog o £412,000 y flwyddyn, wedi hawlio £675 mewn costau o fewn deuddydd ym mis Tachwedd. Roedd hi hefyd wedi hawlio £500 ar fag llaw a gafodd ei ddwyn.

Datgelwyd y ffigyrau mewn adroddiad newydd ar gostau gweithredwyr y BBC.

Fe wnaeth cyfarwyddwr cyfryngau’r dyfodol a thechnoleg y BBC, Erik Huggers, hawlio £3,908 mewn costau teithio dros gyfnod y dri mis.

Yn ogystal â hynny fe hawliodd Caroline Thomson, prif swyddog gweithredol y gorfforaeth, £3,880 dros yr un cyfnod.

Amddiffyn

Mae’r BBC wedi amddiffyn y defnydd o dacsis, gan ddweud mai dyna’r ffordd mwyaf effeithiol o fedru gweithio tra’n teithio.

“Mae dyddiadur Jane Bennett yn arbennig o brysur, felly mae’n rhaid iddi ddefnyddio ei hamser mor effeithiol â phosib,” meddai llefarydd ar ran y gorfforaeth.

“Pan fydd hi’n teithio i gyfarfodydd fe fydd hi’n trefnu cyfres o alwadau busnes er mwyn gwneud y defnydd gorau posib o’i hamser teithio.Oherwydd natur gyfrinachol y trafodaethau yma dyw hi ddim yn bosib eu cynnal nhw’n gyhoeddus.”