Mae ‘na adroddiadau bod ymosodwr Cymru, Craig Bellamy yn bwriadu gadael Man City ar ddiwedd y tymor pe bai rheolwr y clwb, Roberto Mancini yn aros ar gyfer y tymor nesaf.
Mae’r ymosodwr wedi cael sawl ffrae gyda Mancini ers i’r Eidalwr olynu Mark Hughes yn reolwr y clwb fis Rhagfyr y llynedd.
Mae’n debyg nad yw’r Cymro a Mancini yn cytuno ar sustem ymarfer y clwb, ac mae Bellamy wedi gwrthod cymryd rhan mewn ymarferion ar sawl achlysur oherwydd problemau gyda’i ben-glin.
Fe waethygodd perthynas y ddau dros y penwythnos ar ôl i Roberto Mancini feirniadu Bellamy am ei gamgymeriad arweiniodd at gôl fuddugol Man United a gipiodd y gêm ddarbi dydd Sadwrn diwethaf.
Ond mae Bellamy yn chwarae peth o bêl droed gorau ei yrfa gyda Man City ac mae’r clwb yn cystadlu am le yng nghystadleuaeth Cynghrair y Pencampwyr y tymor nesaf- ffactorau allai effeithio ar ei benderfyniad i adael y clwb.
Mae yna hefyd amheuon ynglŷn â dyfodol rhyngwladol Bellamy wedi i John Toshack ei adael allan o garfan Cymru ar gyfer y gêm gyfeillgar yn erbyn Sweden ym mis Mawrth.