Mae hyfforddwr y Crusaders, Brian Noble, wedi canmol ei dîm ar ôl eu buddugoliaeth gadarnhaol yn y Cwpan Her yn erbyn York Knights.
Fe enillodd y clwb Cymreig eu lle ym mhumed rownd y gystadleuaeth ar ôl curo eu gwrthwynebwyr 8-58 yn Stadiwm Huntington.
Fe sgoriodd y Crusaders ddeg cais, gyda Michael Witt yn ychwanegu naw trosiad i faeddu’r tîm rhan amser.
Roedd y gêm mwy neu lai ar ben ar hanner amser ar ôl i’r Crusaders sicrhau mantais 30-4 ar yr egwyl.
Dim lle i fod yn llac
“Fe fyddwn ni’n dychwelyd i chwarae yn y Super League yr wythnos nesaf, ac yn dal yn y Cwpan Her, sy’n dda i ni,” meddai Noble.
“Roedd y tîm wedi ceisio ennill y gêm cyn gynted ag oedd yn bosib, oherwydd mae gemau fel yma’n gallu mynd yn eich erbyn os ydych chi ychydig yn llac yn eich chwarae.”