Mae Llys Ynadon Caernarfon wedi rhoi’r ddirwy uchaf bosib i ddyn meddw a fu’n ymosod yn eiriol ar swyddogion heddlu ac ar nyrsus Ysbyty Gwynedd, Bangor.

Roedd David Jerome Jones, 35 oed o Abererch ger Pwllheli, wedi ei gludo i adran frys Ysbyty Gwynedd gan yr heddlu ar 8 Ebrill, ar ôl cael ei ganfod yn feddw ac ar ei gefn ar lawr o flaen siop Spar yng Nghaernarfon.

Fe gafodd ei rybuddio gan yr heddlu bryd hynny, ond fe gariodd yn ei flaen i regi staff adran ddamweiniau yr ysbyty wedyn.

Cofio dim

Yn ôl ei dwrnai, Carys Parry: “Mae David Jerome Jones yn cofio ychydig iawn am y digwyddiad. Mae’n cofio dod i Gaernarfon ar y bws o Bwllheli, a bod yn nhafarn Wetherspoons.

“Fe gafodd ormod i’w yfed, a phan mae hynny’n digwydd, mae’n cael ffitiau, oherwydd ei ddibyniaeth ar alcohol. Dydi o ddim yn cofio dim byd ar ôl cael ffit y tro hwn.”

Teimlo’n ddig

Ond roedd Cadeirydd Ynadon Caernarfon, Gareth Heulfryn Williams, yn dweud ei fod ef a gweddill y panel yn “ddig” gyda’r ymddygiad, a dyna pam eu bod nhw’n rhoi’r ddirwy uchaf.

“Rydan ni’n gweld lot fawr o achosion o fod yn feddw ac yn afreolus, ond mae’r achos yma yn un difrifol iawn, iawn,” meddai Gareth Heulfryn Williams.

“Mae ganddon ni ganllawiau ynglŷn â faint o ddirwy yr ydan ni’n gallu ei rhoi, ac mae angen gwneud pwynt y tro hwn.

“Rydan ni’n rhoi’r ddirwy uchaf bosib o £150 i chi, ond yn ei thynnu hi i lawr i £100 am eich bod wedi pledio’n euog, a £100 o gostau llys.”