Fe glywodd llys ynadon Caernarfon heddiw fod Heddlu Gogledd Cymru wedi dod o hyd i ddegau o filoedd o bunnau wedi eu cuddio mewn clawdd ym Mhen Llŷn.
Ers Ionawr 27 eleni, mae’r Uned Ymchwiliadau Ariannol wedi bod yn ceisio dod o hyd i berchennog £34,000 a oedd wedi eu cuddio mewn tun ym mhentref Mynytho ger Pwllheli.
Mae golwg360 yn deall fod aelod onest o’r cyhoedd wedi dod o hyd i’r arian wrth fynd am dro.
Arian anonest
Dyw’r heddlu ddim wedi gallu cysylltu’r un person â’r arian hyd yma, a hynny er iddyn nhw gynnal profion DNA, casglu olion bysedd, a chysylltu â gorsafoedd heddlu eraill. Maen nhw’n credu bod yr arian yn gysylltiedig â throsedd.
“Mae’n reit gyffredin i ddelwyr cyffuriau i guddio pres a chyffuriau y tu allan,” meddai’r Rhingyll Philip Williams o’r Uned Ymchwiliadau Ariannol wrth y llys.
Mae Cadeirydd yr Ynadon, Gareth Heulfryn Williams, wedi caniatau i’r arian fynd yn ol i’r coffrau cyhoeddus, ar ôl cael ei fodloni bod popeth posib wedi cael ei wneud i drio darganfod perchennog yr arian.