Roedd presenoldeb golffwyr Cymreig yn amlwg ym Mhencampwriaeth Agored China, gyda dau yn gorffen yn ail ac un arall yn drydydd.

Ond Ye Yang o Dde Corea enillodd y gystadleuaeth, gyda sgôr o 15 ergyd yn well na’r safon.

Gorffennodd Rhys Davies a Stephen Dodd yn ail – 13 ergyd yn well na’r safon, gyda Jamie Donaldson un ergyd tu ôl i’w gyd-wladwyr yn y trydydd safle.

Dyma oedd y trydydd tro i Rhys Davies orffen yn deg uchaf cystadleuaeth yn ystod y flwyddyn yma.

Y tro cyntaf

Fe enillodd ei gystadleuaeth ar y Daith Ewropeaidd ym Moroco mis diwethaf, ac roedd yn falch i fod yn herio am wobr unwaith eto.

“Rwy’n falch iawn pan mae cyfle gennyf ennill- dyna’r safle rydych chi am fod mewn cystadleuaeth,” meddai Davies.

“Doeddwn ni ddim wedi llwyddo y tro hwn, ond ro’n i wedi gwthio’n galed. Rwy’ i ychydig yn siomedig am fethu â manteisio ar y cyfleoedd yn ystod y naw twll olaf.

“Ond roedd fy ngêm yn dda, ac mae wedi bod yn dda trwy’r tymor, felly alla’ i ddim bod yn rhy siomedig,” ychwanegodd Rhys Davies.