Rhaid i’r Democratiaid Rhyddfrydol fod yn barod am ymosodiadau cyson gan Blaid Lafur a’r Torïaid dros y dyddiau nesaf, yn ôl eu harweinydd Nick Clegg.

Gydag arolygon barn yn dangos cynnydd sylweddol mewn cefnogaeth i’r Democratiaid Rhyddfrydol ers llwyddiant eu harweinydd yn y ddadl deledu nos Iau, dywedodd Nick Clegg fod yn rhaid i’w blaid fanteisio i’r eithaf ar y cyfle.

Wrth siarad gyda phobl ifanc yn Sutton, Surrey, y bore yma, meddai:

“Mae’r cyfle yn anferthol y tro yma.

“Mae nifer cynyddol o bobl yn dechrau gobeithio, yn dechrau credu bod drws bach wedi agor, ac efallai y gallwn wneud pethau’n wahanol y tro hwn.”

Rhybuddiodd y byddai’r Llafur a’r Torïaid yn ymateb trwy dargedu’r Democratiaid Rhyddfrydol a chamarwain pobl ynghylch eu polisïau.

“Wrth gwrs fe fyddan nhw’n ymosod ac wrth gwrs fe fyddan nhw’n gwneud pob mathau o honiadau camarweiniol,” meddai.

“Mae Llafur a’r Ceidwadwyr fel petaen nhw’n credu mai eu genedigaeth fraint yw rheoli.

“Maen nhw wedi cymryd eu tro i lywodraethu’r wlad ar ffracsiwn bach iawn o’r bleidlais.

“Mae angen i ni fanteisio ar y cyfle i annog pobl i weld fod mwy o bosibiliadau ar gael iddyn nhw nag ailadrodd hen wleidyddiaeth ddwy-blaid y gorffennol.”

Llun: Nick Clegg a’i wraig Miriam Gonzalez Durantez yn ymgyrchu ddoe (Katie Collins/Gwifren PA)