Mae’r 15fed llyfr yng nghyfres Rwdlan gan yr awdures boblogaidd, Angharad Tomos, wedi hwylio’i ffordd o’r wasg i mewn i siopau llyfrau Cymru.
‘Barti Ddwl’ yw’r pymthegfed llyfr yn y gyfres a ddechreuodd gyda Rala Rwdins, chwarter canrif yn ôl.
Mae’r llyfr diweddaraf yn sôn am “gyfrinach Ceridwen” ac mae’r Dewin Dwl yn gwisgo fel Barti Ddu, y môr leidr.
“Mae’r gyfres yn dal i werthu” meddai Angharad Tomos wrth Golwg360. Roedd y llyfr diwethaf yn y gyfres wedi gwerthu “dros fil,” meddai.
“Os ydi’r gyfres dal yn gwerthu – does gen i ddim gwrthwynebiad. Ond, os fyddai’r gwerthiant yn y cannoedd – faswn i wedi meddwl bod y peth wedi chwythu’i blwc.”
Dywedodd fod “Rala Rwdins yn rhan ohoni bellach,” ac na fedr ddianc rhagddi.
Fe ddechreuodd ysgrifennu’r llyfr fis Ionawr diwethaf – ac fe fu’r awdures wrthi am tua thair wythnos cyn ei gwblhau.
‘Gonestrwydd’ plant
Un o’r pethau sy’n sbarduno’r awdures i ysgrifennu, ac mae’n ei fwynhau yw ymateb plant wrth iddi fynd o amgylch ysgolion yn cynnal sesiynau ac yn darllen.
“Dyw plant heb newid lot mewn chwarter canrif. Dw i’n mwynhau mynd o amgylch ysgolion, mae bod yn awdur yn gallu bod yn unig, fell arall,” meddai Angharad Tomos wrth Golwg360.
“Mae pobl jest yn dweud os ydyn nhw wedi mwynhau’r llyfr ond mae plant yn fwy gonest. Nawn nhw ddim eistedd am awr os nad oes ganddyn nhw ddiddordeb,” meddai’r awdures.
Cartwnau a dychymyg
Mae’r “broses o ‘sgwennu’n” anodd i blant pump a chwech oed, meddai’r awdures. Ond, un peth mae plant yn ei fwynhau ac sy’n tanio’i dychymyg yw cartwnau.
Mae’n gofyn i blant dynnu lluniau wynebau dychmygol ac “mae’r sgwennu’n dod drwy hynny,” meddai.
“Mae’r dychymyg yna mewn plentyn, mater o sut ydach chi’n ei feithrin o ydi o” meddai.
Er bod llawer o blant yn fwy hyddysg mewn enwau rhaglenni teledu na llyfrau, mae’n bosibl “tanio diddordeb creadigol drwy ddefnyddio cyfrwng fel technoleg hefyd,” meddai cyn dweud mai’r “stori sy’n bwysig.”
“Pan ’dw i’n gwneud cartwnau, dw i’n dweud wrthyn nhw nad ydyn nhw angen batris na dim i’w gwneud nhw,” meddai.
Dyw’ Angharad Tomos ddim yn siŵr fydd na lyfr arall i’r gyfres yn y dyfodol. Mae’n mynd i “drio cael amser i wneud stori sy’n ddim i’w wneud â Rala Rwndins” meddai, cyn cyfaddef na fyddai wedi meddwl blwyddyn yn ôl y basa ‘na 15fed llyfr yng nghyfres Rwdlan.