Mae capten Abertawe, Garry Monk wedi galw ar ei dîm i groesawu’r pwysau sydd arnyn nhw a hawlio eu lle yn y gemau ail gyfle.

Mae’r Elyrch yn paratoi ar gyfer gêm bwysig iawn yn erbyn Barnsley yn Stadiwm Liberty yfory – a hynny ar ôl cyfres o ganlyniadau gwael.

“Mae’n wych bod yn rhan o rywbeth sydd â gwobr mor fawr, yn hytrach na gorffen yng nghanol y tabl,” meddai Monk.

“Mae’n rhaid i ni gofleidio’r siawns a’r pwysau, gan nad yw cyfleodd o’r fath ddim yn dod yn aml iawn.

“Mae’r tair gêm nesaf yn rhai enfawr i’r clwb ac mae’n rhaid i ni fod yn gryf gyda meddylfryd ennill.

‘Ar ein gorau’

“Fe fydd rhaid i ni fod ar ein gorau yn feddyliol ac yn gorfforol. Bydd angen i ni fod ar y droed flaen fel yr oedden ni yn erbyn Scunthorpe.”

Honno oedd eu buddugoliaeth ddiwetha’ – maen nhw wedi llithro o fod yn ffefrynnau clir i gyrraedd y gemau ail gyfle.

Ar hyn o bryd, mae’r Elyrch yn y chweched safle, ddau bwynt o flaen Blackpool sy’n seithfed a phedwar o flaen Middlesborough yn yr wythfed safle.

“Mae Blackpool, Caerlŷr a Middlesborough i gyd yn meddwl y gallan nhw orffen yn y chwech uchaf,” meddai Monk. “Ond mae’n dda bod y cyfan yn ein dwylo ni.”