Mae gobeithion Llanelli o ennill pencampwriaeth Uwch Gynghrair Cymru wedi cael ergyd yn dilyn eu gêm gyfartal yn erbyn Hwlffordd neithiwr.
Roedd ail gêm mewn 48 awr wedi profi’n ormod i dîm Andy Legg, er iddyn nhw fynd ar y blaen wedi dim ond 16 munud o’r gêm, trwy’r ymosodwr Rhys Griffiths.
Ond fe sgoriodd Lee Hudgell ychydig cyn hanner amser i unioni’r sgôr i’r ymwelwyr.
Doedd dim llawer i rannu’r timau yn yr ail hanner, ond fe fethodd Griffiths gyfle gwych i sicrhau’r fuddugoliaeth i Lanelli gyda chwarter awr yn weddill.
Wyth pwynt ynddi
Mae Llanelli wyth pwynt y tu ôl i’r Seintiau Newydd ond maen ganddyn nhw ddwy gêm ychwanegol i’w chwarae.
Fel mae’r sefyllfa yn y gynghrair ar hyn o bryd, mae pwysau o hyd ar y Seintiau Newydd i ennill y ddwy gêm sy’n weddill – ond mae tynged y teitl yn eu dwylo nhw.
Fe fydd rhaid i Lanelli ennill eu gemau ychwanegol i gadw’r pwysau arnyn nhw – a gobeithio y bydd y Seintiau’n llithro.
Bydd Llanelli yn wynebu’r Trallwng yfory tra bod Hwlffordd yn herio’r Seintiau Newydd yn The Venue.