Mae’r Gleision wedi gwneud dau newid i’r tîm a gurodd Newcastle Falcons er mwyn herio’r Scarlets yn Llanelli yfory.

Mae’r gêm yng Nghynghrair Magners yn allweddol – os bydd y Gleision yn ennill fe fyddan nhw fwy neu lai’n rhoi caead ar obeithion y Scarlets o ennill lle yng Nghwpan Heineken y tymor nesa’,

Dyma’r newidiadau

Mae capten y rhanbarth, Paul Tito yn dychwelyd i’r ail reng gyda Bradley Davies ar y fainc.

Bydd y bachwr Gareth Williams yn dechrau yn y rheng flaen gyda T Rhys Thomas hefyd ymysg yr eilyddion.

Bydd y prop, Gethin Jenkins yn gwneud ei 100fed ymddangosiad i’r rhanbarth ers arwyddo yn ystod haf 2004.

Rhediad da

Mae’r Gleision yn teithio i Barc y Scarlets ar ôl dwy fuddugoliaeth oddi cartref yn erbyn Ulster a Newcastle ac maen nhw hefyd wedi ennill oddi cartref yn eu pum gêm olaf.

Mae tîm Dai Young eisoes wedi maeddu’r Scarlets dwywaith y tymor hwn- 19-15 mewn gêm Cynghrair Magners yn Stadiwm Dinas Caerdydd a 38-23 ym Mharc y Scarlets yn y Cwpan Eingl-Gymreig.

Yn eironig, mae buddugoliaeth y Gleision yn erbyn Newcastle yn rownd wyth ola’ Cwpan Amlin yn rhoi mymryn o obaith i’r Scarlets – pe bai’r Gleision yn ennill y cwpan, fe fyddai lle ychwanegol i Gymru yn yr Heineken.

Carfan y Gleision

15 Ben Blair 14 Leigh Halfpenny 13 Casey Laulala 12 Jamie Roberts 11 Chris Czekaj 10 Ceri Sweeney 9 Richie Rees

1 Gethin Jenkins 2 Gareth Williams 3 Taufa’au Filise 4 Deiniol Jones 5 Paul Tito 6 Maama Molitika 7 Martyn Williams 8 Xavier Rush.

Eilyddion- 16 T Rhys Thomas 17 John Yapp 18 Bradley Davies 19 Sam Warburton 20 Lloyd Williams 21 Dai Flanagan 22 Dafydd Hewitt.

Llun: Paul Tito i mewn