Mae barnwr Uchel Lys wedi gwrthod apêl gyfreithiol yn erbyn y cynllun i ddifa moch daear yng Nghymru.
Fe wrthododd Mr Ustus Lloyd Jones bob un o ddadleuon Ymddiriedolaeth y Moch Daear yn erbyn y cynllun arbrofol yng ngogledd Sir Benfro.
Roedden nhw wedi gofyn am arolwg barnwrol gan godi amheuon am y ffordd yr oedd y Gweinidog Materion Gwledig, Elin Jones, wedi sicrhau’r Gorchymyn Difa.
Fe gyhoeddodd y barnwr ei ddyfarniad mewn dogfen 42 tudalen heddiw, ar ôl gwrandawiad deuddydd yn Abertawe.
Mae’r protestwyr yn dweud nad oes tystiolaeth mai moch daear sy’n lledu diciâu – neu TB – ymhlith gwartheg ac na fydd y difa’n effeithiol.
Dadl Llywodraeth Cynulliad Cymru yw bod difa’n un arf sydd raid ei ddefnyddio ar y cyd â mesurau eraill. Mae’r afiechyd yn costio mwy nag £20 miliwn y flwyddyn mewn iawndal.
Siom y protestwyr
Roedd y cerddor roc Brian May o Queen ymhlith y rhai a fu’n protestio bryd hynny ac fe ddywedodd bod y dyfarniad heddiw yn siom.
“Mae’n siom nid yn unig o ran y moch daear ond hefyd o ran yr union ffermwyr sydd wedi bod yn galw am y difa,” meddai, “Mae’n gamgymeriad trasig”.
Gweinidog yn croesawu
Roedd Elin Jones yn croesawu’r dyfarniad, gan bwysleisio bod y difa’n rhan o gynllun ehangach i geisio dileu diciâu ymhlith gwartheg.
“R’yn ni’n delio gydag epidemig sydd ag oblygiadau difrifol i ni i gyd a rhaid i ni gael gwared arno,” meddai.
“Yn ystod y tair blynedd ddiwetha’, gyda chyngor gan arbenigwyr, r’yn ni wedi creu cynllun cynhwysfawr i ddileu TB ar draws Cymru.
“Mae hwnnw’n cynnwys profi rhagor o wartheg, adnabod a dileu’r afiechyd yn gynt mewn anifeiliaid a gwella arferion ar y fferm.”
Llun: Elin Jones, y Gweinidog Materion Gwledig yn croesawu’r pednerfyniad.