Fe ddaeth arwydd o lwyddiant Nick Clegg yn y ddadl deledu, wrth i’r Ceidwadwyr ddechrau ymosod arno.

Yn ôl polau piniwn wedyn, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol oedd yr enillydd clir yn y ddadl rhwng tri arweinydd y pleidiau mawr Prydeinig.

Fe ddaeth yr ymosodiad cynta’ o fewn oriau, gyda chyhuddiadau bod polisïau’r blaid yn “ecsentrig”.

Fe ddywedodd llefarydd addysg y Ceidwadwyr wrth raglen deledu bod Nick Clegg yn ymddangos yn ffresh a newydd ond bod rhaid edrych ar bolisïau fel ymuno ag arian yr Ewro, dileu arfau niwclear Trident a rhoi amnesti i fewnfudwyr anghyfreithlon.

‘Ecsentrig’

“Tra bod Nick Clegg mewn sawl ffordd yn unigolyn deniadol, mae polisïau ei blaid y tu allan i’r brif ffrwd ac ychydig yn ecsentrig,” meddai Michael Gove. “Nid dyna yr ydych chi o angenrheidrwydd ei eisiau ar adeg fel hyn o greisis ac anhawster.”

Yn y ddadl ar ITV neithiwr, fe lwyddodd Nick Clegg i osgoi’r cecru rhwng y pleidiau gan alw am ddechrau newydd. Roedd Gordon Brown ar ran Llafur a’r Ceidwadwr David Cameron wedi canolbwyntio ar ymosod ar ei gilydd.

Roedd cyn-arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Paddy Ashdown, hefyd wedi rhybuddio y byddai Nick Clegg bellach yn dod dan fwy a mwy o bwysau.

Llun: Y bore wedyn – Nick Clegg heddiw (Gwifren PA)