Roedd yna funud o dawelwch mewn gêm bêl-droed ym Mhorthmadog neithiwr i gofio am Ffion Wyn Roberts, a gafodd ei llofruddio yn y dre’.
Roedd y ferch 22 oed yn cefnogi’r tîm lleol yn frwd ac yn mynd yn aml i gemau yng nghae Y Traeth.
Roedd swyddogion heddlu yno hefyd neithiwr yn rhannu taflenni yn gofyn am ragor o help gan y cyhoedd i geisio dod o hyd i’r llofrudd.
Mae’r ymateb hyd yma wedi bod yn dda iawn, meddai’r plisman sy’n arwain yr ymchwiliad, gyda nifer mawr o bobol yn cysylltu gyda gwybodaeth.
Maen nhw wedi bod yn casglu tystiolaeth a lluniau o’r hyn a ddigwyddodd nos Wener yn yr oriau cyn i Ffion Roberts gael ei lladd.
Roedd y Ditectif Uwch-arolygydd Peter Chalinor yn pwysleisio nad oedd “y person neu bersonau” sy’n gyfrifol am y llofruddiaeth wedi eu dal a bod yr ymchwiliad yn parhau.