Mae lludw o losgfynydd yng Ngwlad yr Iâ’n creu hafog mewn meysydd awyr ar hyd a lled gwledydd Prydain.
Yn eu plith, mae maes awyr Caerdydd lle mae nifer sylweddol o deithiau wedi cael eu canslo, gan gynnwys rhai i’r Alban.
Yno, mae’r cwmwl lludw wedi cau’r holl brif feysydd awyr – mae maes awyr Manceinion hefyd ynghau ac mae mwyafrif y teithiau o feysydd awyr gwledydd Prydain wedi eu hatal.
Mae’r trafferthion wedi cynyddu yn ystod y bore wrth i asiantaethau tywydd a hedfan gyhoeddi rhybuddion. Mae llwch folcanig yn gallu achosi difrod i beiriannau awyrennau.
Er bod arbenigwyr yng Ngwlad yr Iâ wedi dweud bod llosgfynydd Eyjafjallajokull yn tawelu, fe fu ffrwydrad pellach ac mae’rr gwynt yn chwythu’r cwmwl lludw ar draws yr Iwerydd a gogledd Ewrop.
Fe ddechreuodd y llosgfynydd cynta’ ffrwydro ar 20 Mawrth ac mae’r fflamau a’r mwg wedi bod yn atyniad twristaidd yng Ngwlad yr Iâ ei hun.
Echdoe, fe gyhoeddodd yr awdurdodau yno bod y ffrwydradau wedi peidio yn Eyjafjallajokull .
Llun: Y diwrnod wedi i’r llosgfynydd ffrwydro (AP Photo)