Fe fydd y Blaid Lafur unwaith eto’n dadlau bod yr Etholiad Cyffredinol yng Nghymru’n frwydr uniongyrchol rhyngddi hi a’r Ceidwadwyr.
Dyna fydd neges y Prif Weinidog, Carwyn Jones, wrth i’r blaid lansio ei maniffesto Cymreig.
Ond mae Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain, eisoes wedi cael ei feirniadu am addo creu 50,000 o swyddi newydd – yn ôl y pleidiau eraill, does dim sail i hynny.
Tacteg Llafur yw ceisio polareiddio’r ddadl er mwyn gwasgu’r pleidiau eraill, gan gynnwys Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, sydd hefyd yn cyhoeddi eu maniffesto heddiw.
Fe fyddan nhw’n addo £125 miliwn o arian ychwanegol i Gymru bob blwyddyn yn rhan o’u hymrwymiad i gynnig mwy o chwarae teg.
Er hynny, mae’r ddwy blaid hefyd yn ailadrodd llawer o’r polisïau Prydeinig, gyda Llafur er enghraifft yn sôn am drin cleifion canser – er bod iechyd wedi’i ddatganoli.
Llun: Y Prif Weinidog, Carwyn Jones, fydd yn lansio maniffesto’r Blaid Lafur yng Nghymru