Mae yna deyrngedau wedi’u rhoi i’r gwleidydd Tom Ellis a fu farw yn 86 oed.

Ef oedd un o sylfaenwyr plaid yr SDP yng Nghymru ar ôl gadael y Blaid Lafur ar ddechrau’r 1980au.

Roedd yn un o blant Rhosllannerchrugog ger Wrecsam ac wedi bod yn rheolwr dau o’r pyllau glo lleol, Bersham a’r Hafod, cyn troi at wleidyddiaeth.

Ar ôl cael ei ethol tros Lafur yn Wrecsam, fe ddechreuodd gael ei ddadrithio ym mholisïau asgell chwith y blaid ac roedd yn un o’r ASau cynta’ i ddilyn y ‘Gang o Bedwar’ wrth sefydlu plaid newydd yr SDP.

Llywydd

Er iddo fethu â chael ei ethol eto’n Aelod Seneddol, fe fu’n Llywydd y blaid yng Nghymru ac yn allweddol yn y trafodaethau wrth iddi hi ymuno gyda’r Rhyddfrydwyr i greu’r Democratiaid Rhyddfrydol.

“Roedd Tom yn weithiwr caled ac yn wleidydd egwyddorol a oedd yn cael ei edmygu gan lawer o bobol ar draws gogledd Cymru,” meddai arweinydd y blaid yng Nghymru, Kirsty Williams.

Er mai cemeg oedd ei faes, roedd gan Tom Ellis ddiddordeb mawr mewn llenyddiaeth hefyd ac fe gyhoeddodd lyfr am farddoniaeth R.S. Thomas.

Sylw 360

Er ei fod yn ddyn addfwyn a thawel-ei-ffordd, roedd Tom Ellis yn wleidydd dewr. Fe fu’n rhaid iddo wynebu cyfres o gyfarfodydd milain o fewn y Blaid Lafur yn Wrecsam pan oedd yn y broses o’i gadael.

Roedd ei ddiddordeb penna’ mewn syniadau gwleidyddol, a hynny weithiau’n ei gwneud yn anodd iddo apelio at drwch y boblogaeth.

Ond roedd ei ddylanwad yn nyddiau’r SDP a chyfnod cynnar y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru’n allweddol wrth gadw’r aelodau ynghyd.

Llun: O glawr hunangofiant Saesneg Tom Ellis (Gwasg Gomer)