Mae mwy o achubwyr wedi cyrraedd rhan fynyddog o Tibet heddiw ar ôl i ddaeargryn yno ladd o leiaf 600 o bobol ac anafu miliynau.
Fe wnaeth cyfres o ddaeargrynfeydd ddoe chwalu adeiladau yn ardal anghysbell Yushu gan adael miloedd o oroeswyr heb unrhyw ffordd o drin eu hanafiadau.
Mae lluniau teledu o Tibet yn dangos stryd ar ol stryd o dai pren a mwd wedi chwalu. Dywedodd swyddogion China bod 85% o adeiladau’r ardal wedi eu dinistrio.
Erbyn heddiw roedd nifer y meirw wedi codi i 617, gyda 300 o bobol ar goll a 9,000 wedi eu hanafu, 970 o’r rheini yn ddifrifol.
Dywedodd llywodraeth China bod 15,000 o dai wedi chwalu ac y byddai angen symud 100,000 o bobol i dai newydd.
Treuliodd y goroeswyr y noson y tu allan mewn tymheredd o dan y pwynt rhewi, ac roedd sawl ôl-gryniad yn ystod y nos.
Heb driniaeth feddygol wrth law mae goroeswyr gydag esgyrn wedi torri wedi gorfod disgwyl am gymorth achubwyr.
“Mae’n teimlo fel maes rhyfel. Mae’n llanast llwyr,” meddai Ren Yu, rheolwr Gwesty Yushu yn nhref Jiegu. “Yn ystod y nos roedd pobol yn crio a gweiddi. Roedd merched yn crio am eu teuluoedd.”
Dywedodd ei fod o wedi teimlo o leiaf pum ôl-gryniad yn ystod y nos.
“Mae gan rai o’r bobol goesau neu freichiau wedi torri ond does dim ar gael ond pigiad. Roedden nhw’n crio gyda phoen.”
Mae’r achubwyr wedi bod yn canolbwyntio ar ysgolion sydd wedi chwalu, wrth i asiantaeth newyddion gwladwriaeth China ddweud bod o leiaf 56 o ddisgyblion wedi marw.
Yn ol Asiantaeth Newyddion Xinhua roedd 22 o’r rheini, 20 merch a dau fachgen, yn Ysgol Alwedigaethol Yushu.
“Mae’n afiach,” meddai Tashi Tsering, cyfarwyddwr elusen Jinpa sy’n rhoi cymorth addysgol a meddygol yn Yushu. “Mae’r dref gyfan wedi syrthio i lawr.
“Dw i’n siŵr fod yna rhai pobol yn fyw o dan y tai sydd wedi chwalu ond dw i ddim yn meddwl fod yna lot ohonyn nhw.”