Mae pôl piniwn yn awgrymu y gallai cymaint â 30 miliwn o bobol wylio’r dadleuon teledu rhwng arweinwyr y tair plaid Brydeinig fawr.

Ac mae hanner y rheiny’n dweud y gallai’r rhaglenni effeithio ar eu pleidlais nhw ddydd Iau, Mai 6.

Fe ddaw’r ffigurau o arolwg gan ComRes ar gyfer papur yr independent ac ITV, a fydd yn darlledu’r rhaglen gynta’ heno – y ddadl gynta’ o’i bath erioed yng ngwledydd Prydain.

Yr arweinydd Ceidwadol, David Cameron, sydd wedi ennill yr hawl i fod yn y canol o’r tri – y gred yw y bydd hynny’n ychwanegu at ei awdurdod. Ac yntau ar y blaen yn yr arolygon barn, ef sydd â’r mwya’ i’w golli.

Mae’r tri arweinydd wedi bod yn ymarfer yn galed – nid yn unig o ran ateb y cwestiynau ond hefyd o ran sut i ymddwyn o flaen y camerâu.

Y gred yw bod yna fwy nag arfer o bobol eleni heb benderfynu sut i bleidleisio ac mae’r polau piniwn hefyd yn nes nag ers blynyddoedd.

Ffurfiol

Fe fydd y tri’n wynebu 90 munud o gwestiynau, ond o dan amodau ffurfiol iawn, gydag amser penodol i bob un ateb, cyfyngiadau ar hawl y gynulleidfa i gymeradwyo a chadw sŵn.

Gyda sylwebwyr yn disgwyl i bob un o’r tri fod yn ofalus iawn yn y ddadl gynta’, fe fydd y diddordeb mwya’ yn y cyfnod o bedwar munud o ‘ddadlau rhydd’ sy’n dilyn pob cwestiwn.

Fe fydd pleidiau UKIP, y Blaid Werdd a’r BNP yn cael cyfle i ymateb i’r ddadl mewn rhaglen hwyrach.