Mae dau ddyn yn cael eu cwestiynu gan yr heddlu heddiw mewn cysylltiad â llofruddiaeth llanc ifanc gafodd ei drywanu i farwolaeth o flaen ei rieni ar stepen drws ei dy.
Cafodd Aamir Siddiqi, 17, ei ladd gan ddynion yn gwisgo mygydau yn ei gartref bnawn dydd Sul, ond mae’r heddlu yn credu eu bod nhw wedi ymosod ar y person anghywir drwy gamgymeriad.
Cafodd dau ddyn, 39 a 35, eu harestio yn ardal Broadway Y Rhath yng Nghaerdydd ddoe, meddai Heddlu De Cymru.
“Fel y byddech chi yn ei ddisgwyl cafodd teulu Aamir wybod am y datblygiad yma yn syth ac r’yn ni’n parhau i roi gwybod iddyn nhw beth sy’n digwydd,” meddai’r Ditectif Brif Uwch-arolygydd Stuart McKenzie, sy’n arwain yr ymchwiliad.
“Er gwaetha’r arestiadau r’yn ni’n dal i apelio am wybodaeth. Rydw i’n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth unrhywbeth ynglŷn â marwolaeth Aamir i gysylltu ar 02920 571530 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.”
Cafodd Aamir ei drywanu o flaen ei rieni ar ôl agor y drws i’r dynion yn ei gartref ar Stryd Ninian, Caerdydd.
Dioddefodd ei rieni 55 a 68 oed hefyd anafiadau wrth geisio achub eu mab. Cafodd y ddau eu cymryd i’r ysbyty gyda chlwyfau trywanu difrifol.
Mae teulu Aamir wedi dweud eu bod nhw’n pryderu y bydd y llofruddion yn taro os nad ydyn nhw’n cael eu dal.
Fe wnaeth Nishat Siddiqi, 34, chwaer Aamir Siddiqi, erfyn ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda’r heddlu.
“Mae ein teulu ni’n ofn y bydd y bobol wnaeth gyflawni’r drosedd yn gwneud hynny eto,” meddai. “Rhaid dod o hyd i’r troseddwyr cyn iddyn nhw anafu unrhyw un arall.”