Fe wnaeth bachgen ysgol saethu ei hun gartref ar ôl gadael neges ar Facebook yn dweud: “Mae fy mywyd i’n pathetig.”
Daethpwyd o hyd i Ross Langmead, 18, o Larch Drive, Llantrisant, yn farw yn ei gartref dros y penwythnos ar ôl iddo adael y neges.
Neithiwr dywedodd yr heddlu eu bod nhw’n ymchwilio i’w farwolaeth ond nad oedden nhw’n ei drin fel un amheus.
Roedd y llanc o Ysgol Gyfun y Pant yn byw gartref gyda’i rieni Marc a Lisa a’i frawd bach Jack. Dywedodd cymdogion eu bod nhw wedi dychryn wrth glywed am y newyddion.
“Mae’n erchyll bod rywun mor ifanc mae’n debyg wedi cymryd ei fywyd ei hun fel hyn,” meddai un cymydog nad oedd am gael ei enwi.
“Mae fel petai nhw mewn cyswllt gyda phawb ym mhobman ar y ffon ac ar y we ond weithiau maen nhw’n unig iawn.”
Roedd ffrindiau a theulu wedi bod yn gadael teyrngedau iddo ar Facebook.
“Mae gen i ddau blentyn fy hun. Daeth un adref a dweud bod disgybl yn yr ysgol wedi saethu ei hun a wnes i ddim sylwi pwy oedd o bryd hynny,” meddai Alun Evans, o Southgate Avenue, Llantrisant.
“Roedden nhw’n arfer byw dros y ffordd i ni flynyddoedd yn ôl. Ti’n darllen am bethau fel hyn yn digwydd ond pan mae’n digwydd mor agos i gartref mae’n wahanol.”