Mae Heddlu De Cymru wedi arestio dau ddyn ynglŷn â llofruddiaeth Aamir Siddiqi, y bachgen 17 oed a gafodd ei drywanu i farwolaeth yng Nghaerdydd ddydd Sul.

Cafodd dyn 39 oed a dyn 35 oed eu harestio yn ystod y prynhawn yn ardal Broadway yn ardal y Rhath.

Digwyddodd yr ymosodiad ar Aamir Siddiqi mewn tŷ yn Ffordd Ninian yn ardal y Rhath brynhawn ddydd Sul. Cafodd ei rieni eu hanafu’n ddifrifol yn y digwyddiad hefyd.

Er gwaetha’r datblygiad heddiw, mae’r Ditectif Brif Uwch-arolygydd Stuart McKenzie, sy’n arwain yr ymchwiliad, wedi dweud ei fod yn dal i apelio am wybodaeth.

Mae pennaeth heddlu ardal Caerdydd, y Prif Uwch-arolygydd Bob Tooby, wedi diolch i bawb sydd wedi ymateb hyd yn hyn i’r alwad am wybodaeth.

Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad alw’r heddlu ar y rhif: 02920 571 530. Neu gellir galw Taclo’r Tacle heb roi’ch enw, ar y rhif: 0800 555 111.