Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i farwolaeth y dyn 19 blwydd oed yn Newcastle Hill, Pen-y-bont ar Ogwr neithiwr.
Maen nhw’n credu bod y farwolaeth yn ymwneud â chyffuriau. Ar hyn o bryd, mae dwy ferch ac un dyn yn helpu’r Heddlu gyda’u hymchwiliadau.
Dyw’r Heddlu ddim yn trin y farwolaeth fel un amheus ac mae ffeil yn cael ei baratoi ar gyfer y crwner.
Mae’r heddlu eisoes wedi rhoi gwybod i deulu agos.