Ar hyn o bryd, mae bachgen sy’n byw ym Morfa Nefyn ym Mhen Llŷn yn teithio dros fil o filltiroedd o John O’Groats i Baris – drwy redeg a neidio dros adeiladau.

Mae’r gamp Parkour yn dechrau cydio yma yng Nghymru.

“Mae parkour yn golygu rhywbeth gwahanol i bob unigolyn,” meddai Johnny Budden sydd ar fin mentro ar ei daith.

“Mae rhai’n ei wneud er mwyn bod yn gryf ac effeithlon, rhai’n ei wneud er mwyn cael y rhyddid i symud, a rhai er mwyn bod yn greadigol.”

Ond yn ôl Johnny Budden o Nottingham, sydd bellach yn byw ym Morfa Nefyn, mae parkour yn ffordd o ddod dros rwystrau meddyliol a chorfforol yn eich amgylchfyd a mynd o bwynt A i B mor effeithiol â phosib.

Rhaid bod yn gryf ac yn barod, meddai’r gŵr ifanc 22 oed.

“Wnes i weld hysbyseb ar y teledu rhyw chwe blynedd yn ôl – gyda Ffrancwr, David Belle, yn ei wneud. Ro’n i fud.”


Y daith, a chodi arian

Mae sgiliau parkour Johnny Budden ar brawf wrth iddo deithio o John O’Groats i Baris.

Ei fwriad yw rhedeg y rhan fwyaf o’r ffordd – marathon bob dydd – gan gyflwyno campau parkour yn y trefi a dinasoedd ar hyd y siwrne.

Mae’n hyderus ar ôl y cyfnod o ymarfer a pharatoi ei fod yn barod ar gyfer y sialens.

“Dw i’n gwybod fy mod i eisiau gwneud y daith, achos dw i’n ysu am adael. Wnes i ddefnyddio’r bryniau yma er mwyn loncian i fyny, yna eu rhedeg nhw – a nawr dw i’n eu sbrintio nhw.”

Darllenwch weddill y stori yn Golwg, Ebrill 1