Mae ymgyrch atal cyffuriau gan Heddlu De Cymru wedi dod o hyd i ddau kilo o heroin ac wedi sicrhau bod saith o droseddwyr yn cael eu dedfrydu i garchar.

Ar ôl misoedd o waith fe arestiodd Heddlu De Cymru saith dyn ar ôl canfod cyffuriau gyda gwerth stryd o hyd at £225,000, fel rhan o ymgyrch cyffuriau ‘Atlanta’.

Ddoe, fe gafodd seithfed aelod y grŵp, Matthew Keith Ramadam, 29 o Gaerdydd, ei ddedfrydu i dair mlynedd a hanner yn y carchar.

Eisoes, mae’r chwe aelod arall wedi’u dedfrydu fis diwethaf:

• Fe gafodd Ahmed Sair Zamen, 32 o Gaerdydd ei ganfod yn euog o gynllwynio i gyflenwi herion. Cafodd ei ddedfrydu i 12 mlynedd yn y carchar.

• Fe wnaeth Abdul Mannaf Wahid, 27 o Gaerdydd bledio’n euog i gynllwynio i gyflenwi heroin. Cafodd 10 mlynedd o ddedfryd.

• Fe blediodd Shahin Abdul Wahid, 29 o Gaerdydd yn euog i gynllwynio i gyflenwi heroin o Gaerdydd a cafodd wyth mlynedd.

• Fe blediodd Nasim Nazir, 29 o Gaerdydd yn euog i gynllwynio i gyflenwi heroin. Derbyniodd yntau ddedfryd o bum mlynedd yn y carchar.

• Fe blediodd Christopher Harman, 29 o’r Barri yn euog i gynllwynio i gyflenwi heroin. Cafodd ei ddedfrydu i bum mlynedd.

• Fe blediodd Mohammed Hassanyar, 33, o Gaerdydd yn euog i gynllwynio i gyflenwi heroin. Cafodd ei ddedfrydu i 5 mlynedd yn y carchar.

“Mae’r dedfrydau hyn yn anfon neges glir i werthwyr cyffuriau,” meddai’r Prif Uwch-arolygydd Josh Jones.

“Fe fydd Heddlu De Cymru yn delio gyda throseddau o’r fath. R’yn ni wedi ymrwymo i ddiogelu cymunedau y bobl yma.”