Mae disgyblion oed cynradd wedi bod yn creu telynau cardfwrdd gydag artist enwog fel rhan o ddathliadau Gŵyl Delynau Rhyngwladol Cymru sydd yn cael ei chynnal fis yma.
Mae Luned Rhys Parri wedi bod yn gweithio gyda phlant 10 ac 11 oed a phobl ifanc gydag anableddau dysgu i greu telynau cardfwrdd, llinyn, tâp a phaent i dynnu sylw at Ŵyl Delynau Rhyngwladol Cymru yng Nghaernarfon.
Roedd Ysgol y Bont yn Ynys Môn, Ysgol Llanaelhaearn ac Ysgol Bethel wedi bod yn cymryd rhan yn y gweithdai ar ddiwrnodau gwahanol.
Fe gafodd y disgyblion hefyd gyfle i greu portreadau o delynorion amlwg y ddeunawfed a’r ugeinfed ganrif.
‘Trichanmlwyddiant John Parry’
“’Dw i’n licio cerddoriaeth ac mae diddordeb gen i mewn telynau,” meddai meddai Sianelen Pleming, Pennaeth Ysgol Llanaelhaearn wrth Golwg360.
“Ar ôl gweld bod Gŵyl Delynau Rhyngwladol Cymru’n dathlu trichanmlwyddiant John Parry’r telynor – a fynta wedi’i eni o gwmpas fan hyn – dyma benderfynu gwneud rhywbeth difyr i nodi’r peth.
“Roedd Luned Rhys Parri’n wych ac roedd y gweithdy’n brofiad da ofnadwy i’r plant” meddai’r Pennaeth.
Meddai Prifathrawes Ysgol Bethel, Nia Guillemin wrth Golwg360:
“Pan ofynnais i wrth y disgyblion oedden nhw wedi mwynhau – roedden nhw’i gyd yn siarad dros ‘i gilydd ac yn dweud eu bod nhw wedi cael amser ffantastig!” meddai Pennaeth Ysgol Bethel, Nia Guillemin.
Fe fydd Gŵyl Delynau Rhyngwladol Cymru’n cael ei chynnal 4 Ebrill – 10 yn Galeri, Caernarfon.