Mae’r rheolydd darlledu wedi penderfynu bod rhaid i Sky gynnig ei sianelau chwaraeon am bris cyfanwerthol i ddarlledwyr eraill.
Fe ddaw’r penderfyniad gan Ofcom ar ôl ymchwiliad tair blynedd i’r diwydiant. Dywedodd Ofcom y byddai hyn yn sicrhau “cystadleuaeth deg ac effeithiol”.
Cychwynnodd archwiliad gan Ofcom ar ôl i rai o gystadleuwyr Sky, sy’n cynnwys BT a Virgin Media, leisio eu pryderon.
“Mae Ofcom wedi dod i’r penderfyniad bod Sky yn elwa drwy rwystro eu cystadleuwyr rhag prynu’r hawl i ddangos eu sianeli,” meddai’r rheolydd darlledu.
Ond mae BSkyB wedi dweud eu bod nhw’n bwriadu herio casgliadau’r rheolydd darlledu o flaen tribiwnlys.