Mae Cymru wedi disgyn i safle 77 ar restr safleoedd timau rhyngwladol yr awdurdod pêl droed FIFA.
Fe ddisgynnodd tîm John Toshack un lle ar ôl colli 1-0 i Sweden mewn gêm gyfeillgar yn Stadiwm Liberty ar ddechrau’r mis.
Yn ôl rhestr swyddogol FIFA, mae Cymru wedi cael eu gosod yn is ‘na thimau fel Panama, Uganda ac El Salvador.
Mae Cymru yn safle 38 ar restr timau rhyngwladol Ewrop gyda Montenegro a Macedonia yn uwch.
Mae’r Alban, a gollodd 3-0 yn erbyn Cymru’r llynedd, wedi cael eu gosod yn safle 41 ar restr FIFA, gyda Gogledd Iwerddon yn 50 a Gweriniaeth Iwerddon yn safle 44.
Lloger yw’r tîm cartref uchaf ar ôl i FIFA eu gosod hwy yn y seithfed safle.