Traddodiad lleol sy’n cael y bai ar ôl i gyrff 21 baban gael eu darganfod mewn afon yn China.

Arestiodd yr heddlu dau weithiwr marwdy yn rhanbarth Shandong oedd wedi eu talu gan y rhieni i gael gwared o’r cyrff.

Fel arfer mae ysbytai yn galw gyda’r rheini i nôl cyrff babanod marw i’w llosgi nhw.

Ond ymysg rhai o deuluoedd gwledig yr ardal mae marwolaeth plentyn yn cael ei ystyried yn lwc ddrwg ac mae’r babi yn aml yn cael ei adael neu ei gladdu mewn bedd heb ei nodi.

“Yn ôl rhai traddodiadau dyw babanod marw ddim yn cael eu hystyried yn rhan o’r teulu a dydyn nhw ddim yn cael eu claddu gyda gweddill y teulu,” meddai Cao Yongfu, athro ym Mhrifysgol Shandong.

Mae’n debyg bod rhai teuluoedd yn mynd yn bellach ac yn llosgi dillad, teganau a lluniau’r plentyn, ac yna’n smalio nad oedd o erioed wedi bodoli.

Mae’r traddodiad yn deillio o oes pan oedd marwolaeth baban yn beth cyffredin ac nad oedd teuluoedd yn galaru lawer amdano.

Dywedodd Cao bod yr achos yma wedi dychryn y cyhoedd a bod angen datblygu rheolau clir ynglŷn â sut i gael gwared a chyrff babanod.