Mae Prifysgol Bangor wedi talu teyrnged i’r amgylcheddwr adnabyddus Geraint George fu farw yn ei gartref ddoe.

Ef oedd Cyfarwyddwr cwrs Rheolaeth Cefn Gwlad y brifysgol a dywedodd yr Athro Merfyn Jones, Is-ganghellor Prifysgol Bangor, ei fod o’n ddarlithydd hoffus ac uchel iawn ei barch.

“Roedd Geraint yn teimlo’n angerddol am ei bwnc a’r amgylchedd naturiol, ac roedd ei gyfraniad i ddysgu cyfrwng Cymraeg yn amhrisiadwy. Bu hefyd yn arwain nifer o fentrau arloesol i ddatblygu cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg sydd wedi ennill cydnabyddiaeth ledled Cymru a’r tu hwnt,” meddai’r Athro Merfyn Jones, Is-ganghellor Prifysgol Bangor.

‘Unigryw’

Dywedodd ei gyfaill Rhys Harris ei fod o’n ddyn “hollol unigryw” wrth dalu teyrnged iddo heddiw.

“ Trwy ei waith a’i ddiddordebau eang roedd wedi cyffwrdd bywydau llawer iawn o bobol, boed y rheiny yn fyfyrwyr, yn wrandawyr radio, yn ddarllenwyr cylchgronau, cyd bwyllgorwyr neu ddim ond yn un o’i gannoedd o ffrindiau,” meddai.

“Roedd ffraethineb a brwdfrydedd Geraint at bopeth a wnai yn ysbrydoliaeth, a’i gariad at ei deulu a’r pethau eraill oedd yn bwysig iddo megis Cymru ei thir a’i hiaith, byd natur, addysg, y Swans a chriced, yn amlwg i bawb.

“Mae’n anodd iawn dychmygu bywyd heb Geraint, a bydd y bwlch ar ei ôl yn anferth,” meddai.

‘Ysbrydoliaeth’

Dywedodd un a oedd wedi cydweithio gyda Geraint George ei fod o’n “ysbrydoliaeth”.

“Bore ma y clywais y newyddion trist fod Geraint wedi ein gadael,” meddai Dr Dafydd Trystan, o Ganolfan Uwch Cyfrwng Cymraeg Mantais

“Bydd bwlch enfawr ar ei ôl. Geraint a fu’n ysbrydoliaeth i ddatblygiadau ym maes Daearyddiaeth a’r Amgylchedd cyfrwng Cymraeg dros nifer o flynyddoedd ym Mangor ac ar draws Cymru.

“Dwi’n ei gyfri’n fraint o’r mwyaf mod i wedi cael cydweithio gyda Geraint. Roedd ganddo bob amser gynlluniau er mwyn datblygu addysg yn Gymraeg – cynlluniau noddi i ddenu myfyrwyr is-raddedig, darpariaeth newydd i fyfyrwyr o bob cwr o Gymru, ac yn fwy diweddar y Cynllun Meistr Cyfrwg Cymraeg cyntaf a chyflawn ym maes Rheolaeth Amgylcheddol Cynaliadwy.

“Roedd e’n credu’n gryf yn yr amgylchedd a’r Gymraeg ac yn arddel y gred hynny trwy ei holl waith gyda’r Brifysgol a thu allan; gan ddod a chyfuniad prin iawn o allu, brwdfrydedd a phersonoliaeth annwyl at ei gilydd i sicrhau llwyddiant. Roedd hefyd yn ‘Jac’ ffyddlon a bob amser yn barod i drafod gyda’r un brwdfrydedd llwyddiannau diweddar y Swans.

“Mi fydda i a’m cydweithwyr yn y Ganolfan Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg yn ei golli yn fawr iawn – diolch o waelod calon i ti Geraint am bopeth a wnest, ac mi fydd y cannoedd os nad miloedd o fyfyrwyr maes o law fydd yn elwa o’r datblygiadau y gwnest ti ei symbylu yn destament byw i dy fawredd.’”