Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi penderfynu peido cyhuddo person oedd wedi ei arestio ar amheuaeth o ymosod rhywiol mewn cylch meithrin yn Aberystwyth.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod y Gwasanaeth wedi penderfynu nad oedd digon o dystiolaeth i gyhuddo’r person a na fydden nhw’n cymryd unrhyw gamau pellach.
Cafodd y person ei arestio ym mis Chwfror ar ôl honiad iddo ef neu hi ymosod yn rhywiol yng Nghylch Meithrin St Padarn yn Heol Llanbadarn yn y dref. Cafodd y feithrinfa ei gau am gyfnod ar ôl yr honiadau.
“Mae Heddlu Dyfed-Gwent wedi cwbwlhau ei ymchwiliad ac mae’r ffeil wedi ei drosglwyddo i Wasanaeth Erlyn y Goron,” meddai’r heddlu.
“Ar ôl archwiliad trylwyr o’r dystiolaeth penderfynodd Gwasanaeth Erlyn y Goron nad oedd yna ddigon o dystiolaeth i gyhuddo, ac felly ni fydd unrhyw weithredu pellach yn erbyn y person a arestiwyd ar hyn o bryd.”
Does dim cysylltiad rhwng y Cylch Meithrin ac Ysgol Gynradd Babyddol Padarn Sant gerllaw.