Ifan Morgan Jones sydd eisiau gweld beth sydd gan y Ceidwadwyr i’w gynnig…
Os ydych chi wedi darllen ‘The Road’ gan Cormac McCarthy, neu wylio’r ffilm gafodd ei ryddhau ddechrau’r flwyddyn, fe fyddech chi’n gwybod y plot sylfaenol. Does yna ddim lot o stori felly dyma grynodeb byr – mae’r Dyn a’r Bachgen (dyw’r llyfr byth yn eu henwi nhw) yn gwthio troli llawn bwyd tun tuag at yr arfordir.
Dyw hi byth yn gwbl glir pam eu bod nhw’n mynd tuag at arfordir, ac mae eu cyrchfan anghyraeddadwy rywle dros y bryn nesaf o hyd. Mae yna ryw apocalyps erchyll wedi taro’r byd a’r Dyn a’r Bachgen yw’r unig obaith i’r ddynoliaeth.
O’u cwmpas nhw ym mhob man mae beth sy’n weddill o’r ddynoliaeth, sef criw o ladron a chanibaliaid erchyll. Maen nhw eisiau’r bwyd tun sydd dan y tarpolin yn nhroli’r Dyn a’r Bachgen. Rhaid i’r ddau gyrraedd yr arfordir cyn cael eu dal.
Beth am roi enwau i’r Dyn a’r Bachgen? David Cameron a George Osborne, ein hunig obaith yng nghanol y dirwasgiad erchyll sydd wedi taro’r byd. Yr arfordir? Yr Etholiad Cyffredinol, rywle yn y pellter. Y tuniau bwyd dan y tarpolin? Eu polisïau, wedi’u cuddio o afael lladron y Blaid Lafur sydd a’u bryd ar eu dwyn nhw.
Wel falle mai dyna sut y byddai rywun o’r Blaid Geidwadol yn gweld y peth. Maen nhw wedi bod yn grac iawn gyda’r Blaid Lafur am ddwyn eu polisïau nhw yn y gorffennol. Roedd David Cameron yn cwyno am hyn unwaith eto yn sesiwn cwestiwn ac ateb y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf.
Pryder y Ceidwadwyr yw y bydd David Cameron a George Osborne, ar yr hewl simsan tuag at yr Etholiad Cyffredinol, yn codi’r tarpolin yn rhy gynnar ac o fewn dim bydd pob polisi o werth yn cael eu dwyn ac yn ymddangos ym maniffesto’r Blaid Lafur. Maen nhw eisiau disgwyl tan yr eiliad olaf, tan fod y maniffesto wedi ei argraffu, ei selio, a’i yrru yn y post, cyn datgelu beth sydd ganddyn nhw.
Y broblem gyda’r dull yma yw bod rhai sylwebwyr gwleidyddol wedi dechrau gofyn a oes unrhyw beth dan y tarpolin o gwbl. Mae’r Ceidwadwyr wedi dweud nad ydyn nhw’n gwybod beth fydd yn eu Cyllideb Brys nhw tan eu bod nhw’n gweld yr holl ffigyrau – hynny yw, tan eu bod nhw’n saff yn 10 a 11 Stryd Downing. Digon teg, ond hyd yn hyn d’yn nhw heb gynnig unrhyw beth i’r cyhoedd sy’n awgrymu y bydden nhw’n gwneud pethau yn wahanol iawn i’r Blaid Lafur. Efallai bod y ffaith fod polisïau’r ddwy blaid mor ymgyfnewidiol – bod modd i Lafur ddwyn polisïau’r Ceidwadwyr heb i neb sylwi – yn adlewyrchu hynny.
Beth sydd dan y tarpolin, felly? Llwyth o bolisïau blasus ynteu dim byd o gwbl? Bydd yn rhaid i ni ddisgwyl tan y dyddiau olaf cyn yr Etholiad Cyffredinol i wybod y gwir, mae’n debyg.