Ffrwydrodd dau hunan fomiwr eu hunain yn ne Rwsia heddiw gan ladd 12 o bobol.
Dywedodd y Prif Weinidog Vladimir Putin ei bod hi’n bosib eu bod nhw o’r un grŵp a wnaeth ladd 39 o bobol ym Moscow dydd Llun.
Roedd yr ymosodiadau yn rhanbarth Dagestan ger Chechnya a Ingushetia ble mae yna ymosodiadau bron bob dydd gan wrthryfelwyr Mwslimaidd.
Maen nhw’n dilyn y ffrwydradau ym Moscow dydd Llun ddaethyn sioc i’r wlad oedd yn credu bod y
trais wedi’i gyfyngu i gornel deheuol y wlad.
Roedd yr ymosodiadau yn dilyn rhybudd gan arweinwyr y gwrthryfelwyr Mwslimaidd y bydden nhw’n targedu calon Rwsia o hyn allan.
Ffrwydrodd y bomiwr cyntaf ei hun wrth i’r heddlu geisio atal ei gar yn nhref Kizlyar ger ffîn Dagestan gyda Chechnya.
“Dechreuodd yr heddlu ddilyn y car a bron a’i gyrraedd – bryd hynny daeth y ffrwydrad,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.
Wrth i bobol gasglu o amgylch ble ddigwyddodd y ffrwydrad cyntaf, ymddangosodd ail fomiwr wedi’i wisgo fel heddwas a ffrwydro’i hun, gan ladd pennaeth heddlu’r dref ymysg eraill.
Roedd naw swyddog heddlu ymysg y meirw ar ôl y ddau ffrwydrad, meddai’r awdurdodau. Cafodd ysgol a swyddfa heddlu gerllaw hefyd eu ddifrodi.
Mae’r heddlu yn darged aml am eu bod nhw’n cynrychioli’r Kremlin, gelyn ideolegol y gwrthryfelwyr.