Bydd Gareth Thomas yn chwarae ei gêm gyntaf i’r Crusaders yn ne Cymru pan fydd ei glwb yn wynebu Harlequins ar y Gnoll nos yfory.

Mae hyfforddwr y Crusaders, Brian Noble wedi enwi’r un garfan 19 dyn a gollodd 22-16 i Castelford yr wythnos diwethaf.

Dyma fydd y tro cyntaf i Gareth Thomas ddychwelyd i chwarae rygbi yn ne Cymru ers iddo adael y Gleision i chwarae rygbi’r gynghrair gyda’r Crusaders.

Dyw Tommy Lee dim ar gael i chwarae ar ôl torri ei goes wrth ymarfer wythnos diwethaf. Mae’r asgellwr, Gareth Raynor hefyd yn amheuaeth ar ôl colli’r ddwy gem ddiwethaf gydag anaf.

Mae’r prop Mark Bryant, a chwaraeodd i’r Crusaders ym Mhen-y-bont y tymor diwethaf, wedi dweud ei fod yn edrych ‘mlaen i gael dychwelyd.

“Mae gennyf atgofion da o’r tymor diwethaf. Roedd y bobl yn ne Cymru yn wych ac yn cefnogi’r tîm yn rhagorol,” meddai Mark Bryant.

“Mae rhai ohonyn nhw’n dal i deithio i wylio gemau’r Crusaders ac mae hynny’n beth ardderchog.

“Fe fydd chwarae yn y Gnoll yn brofiad newydd i nifer o’r chwaraewyr ac r’y ni’n edrych ‘mlaen i’r gêm”, ychwanegodd y prop.