Mae RGC 1404 wedi ennill eu gêm ddiweddaraf gyda buddugoliaeth gadarnhaol 43-3 yn erbyn tîm y Llynges Frenhinol ar Barc Eirias.
Roedd yna dorf o dros 450 yno i wylio’r gogleddwyr yn mynd 10-3 ar y blaen wedi dim ond deg munud, ar ôl i’r prop Tom Dolezel a’r asgellwr Dylan Owen groesi’r llinell gais.
Methodd y Llynges Frenhinol agymdopi gyda rhedeg pwerus y tîm cartref ac fe aeth RGC 1404 ymhellach ar y blaen gyda chais arall i Dolezel cyn i’r mewnwr, Sean White sgorio’r trydydd. Llwyddodd y cefnwr, Ciaran Hearn gyda’r ddau drosiad.
Fe ychwanegodd y gogleddwyr ddau gais arall cyn hanner amser, y cyntaf gan y canolwr Nick Blevin cyn i seren y gêm, Jack Moorhouse groesi i sicrhau mantais o 36-3 i RGC 1404 ar yr egwyl.
Ail hanner
Fe gychwynnodd yr ymwelwyr yr ail hanner yn llawer cryfach ac fe ddaeth y Llynges Frenhinol yn agos ddwywaith at sgorio cais.
Fe aeth y gêm yn flêr am gyfnod o’r ail hanner gyda chamgymeriadau gan y naill ochor yn atal llif y chwarae.
Ond fe ymosododd RGC 1404 unwaith eto yn hwyr yn y gêm gan sgorio cais arall. Yr asgellwr Kriss Wilkes oedd piau’r cais a trosodd Hearn eto i sicrhau buddugoliaeth addawol i’r gogleddwyr.