Mae chwaraewr y Gweilch, Jonathan Thomas, wedi dweud mai’r gêm ddarbi yn erbyn y Scarlets fydd un o’r pwysicaf y tymor yma.
Fe fydd y Gweilch yn croesawu’r Scarlets i’r Stadiwm Liberty ddydd Gwener ar gyfer gêm allweddol yn y Cynghrair Magners.
Dywedodd Jonathan Thomas ei fod yn gêm mae’r holl chwaraewyr a chefnogwyr yn edrych ‘mlaen amdano.
“Pan mae trefn y gemau yn cael ei gyhoeddi dros yr haf, hon yw un o’r gemau cyntaf mae’r chwaraewyr yn edrych amdano,” meddai Thomas.
“Mae yna gystadleuaeth rhwng y ddau dîm, rhywbeth sy’n dod yn hanesyddol o’r gemau rhwng Castell-nedd neu Abertawe yn erbyn Llanelli.”
Dywedodd Thomas fod yna fwy o gystadleuaeth rhwng y rhanbarthau o fewn Cymru na’r timau tu allan.
“Mae’r rhanbarthau mor agos i’w gilydd ac mae’r chwaraewyr a chefnogwyr yn cymysgu gyda’i gilydd trwy’r amser,” meddai.
“Mae nifer o’r chwaraewyr yn ffrindiau mawr pan maen nhw’n chwarae i’r tîm rhyngwladol.
“Ond mae yna rywbeth arbennig o hyd am y gêm ddarbi wrth i’r chwaraewyr geisio ennill er mwyn cael brolio am fisoedd wedyn!”