Mae rheolwr Caerdydd, Dave Jones, wedi dweud mai’r fuddugoliaeth yn erbyn Caerlŷr neithiwr oedd perfformiad gorau’r Adar Glas y tymor yma.

Fe gurodd Caerdydd tîm Nigel Pearson 2-1 er gwaethaf mynd i lawr i ddeg dyn ar ôl i’r amddiffynnwr Gabor Gyepes gael ei anfon o’r maes.

“Dyna oedd ein canlyniad a’n perfformiad gorau o’r tymor,” meddai Dave Jones.

“Roedd perfformiad yr hanner cyntaf yn wych ac roedden ni’n haeddu bod 2-0 ar y blaen, ac roedd yr ail hanner hyd yn oed yn well.

“Fe wnaeth y tîm amddiffyn yn dda. Roedd e’ wastad yn mynd i fod yn anodd yn yr ail hanner.”

Canmol cefnogwyr

Roedd Dave Jones hefyd yn canmol y cefnogwyr gan ddweud eu bod nhw’n rhagorol.

“Roedd y cefnogwyr yn wych – yn wirioneddol ragorol. Fe wnaeth eu sŵn nhw roi hwb i bawb,” meddai Jones.

“Roedd pobol yn dweud bod Parc Ninian yn gadarnle, ond mae’r stadiwm newydd yn gadarnle hefyd pan mae’r cefnogwyr yn gwneud gymaint â hynny o sŵn.

“Mae’r cefnogwyr yn gofyn am ymroddiad ac fe gafwyd hynny gan y chwaraewyr,” ychwanegodd y rheolwr.

Anafiadau

Ond mae’r fuddugoliaeth wedi bod yn un gostus iawn i Gaerdydd ar ôl i Darcy Blake, Chris Burke a Mark Kennedy gael eu hanafu.

Gyda Mark Hudson allan am rai wythnosau eto, Gabor Gyepes wedi ei wahardd yn dilyn ei garden goch yn ogystal ag amheuon ynglŷn â ffitrwydd Anthony Gerrad, does dim un amddiffynnwr canol cae ar hyn o bryd ar gael gan Gaerdydd i wynebu Abertawe.

“Does dim syniad gen i bwy fydd yn chwarae dydd Sadwrn. Ond mae’r fuddugoliaeth wedi rhoi hwb i’r hyder,” nododd Dave Jones.