Fe fydd cynghorwyr Cyngor Sir Conwy yn cyfarfod heddiw wedi i Brif Weithredwr y Cyngor, Byron Davies gael ei wahardd o’i ddyletswyddau dros dro, ddydd Gwener.
Ni fydd y cyhoedd yn cael mynd i’r cyfarfod am 4pm heddiw i drafod y trefniadau yn ei absenoldeb.
Dywedodd Cynghorydd Plaid Cymru, Phil Edwards dros etholaeth Llandrillo yn Rhos, ei fod “wirioneddol yn y tywyllwch” ynghylch a pham yn union y mae’r Prif Weithredwr wedi’i wahardd dros dro.
Ond, roedd hynny’n naturiol gan mai “cwestiwn cyfreithiol” ydi o, meddai.
“Mae’r heddlu’n ymchwilio. ‘Dw i ddim yn meddwl y cawn ni wybod mwy am hynny heno. Pwrpas y cyfarfod fydd rhoi trefniadau yn ei lle dros dro,” meddai’r cynghorydd wrth Golwg360.
Fe ddywedodd Cynghorydd arall, Ken Stevens, Llafur, etholaeth Pant yr Afon a Phenmaenan wrth Golwg360 ei fod o’n “fater rhwng Byron a’r cyngor”.
“Dw i’n meddwl eu bod nhw wedi delio â’r peth yn sensitif,” meddai.
“Yn amlwg, maen nhw’n delio â’r peth mewn ffordd systematig, does gen i ddim problem hefo hynny o gwbl a chymryd nad ydi o’n effeithio fy ngwaith i.
“Fe gawn ni wybod y canlyniad pan fydd yr heddlu wedi darfod ymchwilio” meddai.
Mae ymchwiliadau yr heddlu’n parhau.
(Llun: Byron Davies, o wefan y Cyngor)