Ddoe cyhoeddwyd y byddai gorsaf niwclear nesaf Prydain yn cael ei adeiladu ar Ynys Môn. Ond does dim croeso i ynni niwclear yno, meddai Dylan Morgan o’r ymgyrch Pobol Atal Wylfa-B.

Mae ynni niwclear yn fudr, peryglus a drud. Mae mwy na digon o ddulliau cynhyrchu trydan eraill sy’n lanach, diogelach, rhatach, cyflymach i’w hadeiladu ac yn fwy dibynadwy.

Digwyddodd sawl damwain ddifrifol mewn sefydliadau niwclear gan gynnwys Windscale yn Cumbria, Mayak a Chernobyl yng nghyfnod Undeb y Sofiet, Three Mile Island yn yr Unol Daleithiau, ac adweithydd niwclear Forsmark yn Sweden.

Digwyddodd llawer o ddamweiniau eraill gan gynnwys yn y Wylfa a’r sefydliad niwclear yn Sellafield, Cumbria.

Byddai’r tanwydd dwys y dymunir ei ddefnyddio mewn adweithydd newydd yn creu gwastraff niwclear eithriadol o beryglus. Byddai’r gwastraff hwn yn cael ei storio yn safle’r Wylfa ar Ynys Môn am o leiaf 160 o flynyddoedd.

Byddai’r fath domen wastraff beryglus ar y safle hefyd yn cynyddu’r perygl ymosodiad terfysgol.

Mae astudiaethau hefyd wedi dangos fod graddfeydd uwch o gancr mewn ardaloedd ger sefydliadau niwclear.

Hefyd, pe bai damwain ddifrifol yn yr Wylfa, byddai tagfeydd difrifol wrth y ddwy bont a phobl Môn yn methu gadael.

Dulliau eraill

Mae adroddiad gan Lywodraeth y Cynulliad yn dangos y gallai Cymru gynhyrchu dwywaith ei hanghenion trydan o ffynonellau ynni adnewyddol.

Dengys sawl adroddiad y gall ynni o ffynonellau adnewyddol gyflenwi nid yn unig
holl drydan, ond holl ynni’r byd.

Yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd, mae modd codi prosiectau ffynonellau ynni adnewyddol yn gynt o lawer na gorsafoedd niwclear, a chynhyrchu llawer llai o CO2 yn y broses.

Talu’r pris

Mae adroddiad Nuclear Subsidies gan y grwp Energy Fair yn dangos bod cost ynni niwclear yn cael ei guddio gan gymorthdaliadau niferus. Heb y cymorthdaliadau hynny, byddai ynni niwclear yn anneniadol iawn i fuddsoddwyr.

Cadarnhaodd adroddiad gan Citigroup a sawl adroddiad arall gost uchel ynni niwclear.

Yn hytrach na chynnal y diwydiant niwclear, gwell o lawer fyddai gwario arian ar ffynonellau ynni glân, diogel a dihysbydd y mae eu hangen ar fyrder yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd.

Swyddi

Does dim sicrwydd y byddai pobl leol yn cael swyddi mewn gorsaf niwclear newydd ym Môn. Gallai’r swyddi fynd i bobl o unrhyw le yn yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r fferm wynt fawr newydd a gynllunnir ar gyfer Môr Iwerddon yn cynnig llawer o gyfleoedd cyflogaeth.

Yn fyd-eang, mae ynni gwynt yn tyfu ar y raddfa drawiadol o 25% y flwyddyn. Mae Ynys Môn mewn safle da i fanteisio ar y farchnad dwf hon o greu tyrbinau gwynt a’u hallforio o Gaergybi i bedwar ban byd.

Mae llawer o gyfleoedd eraill mewn diwydiannau glân fel technoleg gwybodaeth, a gall Môn wrth gwrs ddatblygu diwydiannau traddodiadol fel amaeth a thwristiaeth.

Gwastraff niwclear

Yn dilyn cyfnod maith o ymchwil mewn sawl rhan o’r byd, does dim ateb i’r broblem o beth i’w wneud gyda gwastraff niwclear a fydd yn beryglus am filoedd o flynyddoedd.

Gan nad oes ateb i’r broblem, mae’n anfoesol creu mwy fyth o wastraff niwclear – maen melin peryglus o gwmpas gyddfau cenedlaethau’r dyfodol – trwy godi adweithyddion niwclear newydd.

Terfysgaeth

Mae modd camddefnyddio technoleg ynni niwclear yn hawdd ar gyfer creu arfau niwclear. Bydd dirwyn ynni niwclear i ben yn lleihau perygl ymlediad arfau niwclear ac yn hybu dileu’r fath arfau yn llwyr.

Mae sefydliadau niwclear, a’r llongau a’r trenau sy’n cario tanwydd neu wastraff niwclear yn dargedau deniadol i derfysgwyr.

Byddai dirwyn ynni niwclear i ben hefyd yn lleihau’r perygl y gallai terfysgwyr greu a defnyddio ‘bom fudr’ trwy bacio defnyddiau niwclear o amgylch bom confensiynol.