Mae disgwyl i amddiffynnwr Wrecsam, Frank Sinclair gael dirwy am gael carden goch yn y gêm gyfartal yn erbyn AFC Wimbledon.

Cafodd yr amddiffynnwr ei anfon o’r maes am droseddu yn erbyn Danny Kedwell yn y cwrt cosbi yn ystod amser ychwanegol a roddodd gyfle at AFC Wimbledon unioni’r sgôr.

“Mae nifer wedi dweud bod eu chwaraewr nhw wedi ceisio dyrnu Frank ac mae e’ wedi ymateb ac mae’r llumanwr wedi rhoi cic gosb,” meddai rheolwr Wrecsam, Dean Saunders.

“Rwyf wedi dweud wrth y chwaraewyr yn y gorffennol y bydden nhw’n cael dirwy pe baen nhw’n cael eu hanfon o’r maes am ymateb a dial.”

Dyma oedd ail garden goch Frank Sinclair o’r mis ac fe fydd yn wynebu cael ei wahardd o bum gêm.

Gorffen dramatig

Roedd y Dreigiau 1-0 ond fe orffennodd y gêm 2-2 ar ôl i dair gôl gael eu sgorio yn ystod amser ychwanegol.

Fe aeth Wrecsam ar y blaen ar ôl i olwr AFC Wimbledon daro’r bêl i gefn rhwyd ei hun.
Roedd golwr Wrecsam, Chris Maxwell eisoes wedi arbed cic o’r smotyn gan Danny Kedwell yn gynharach yn y gêm.

Wedi 90 munud o’r chwarae fe darodd amddiffynnwr Wrecsam, Frank Sinclair gôl i rwyd ei hun i unioni’r sgôr i’r tîm cartref.

Ond yn ôl daeth Wrecsam gyda gôl gan Andy Mangan i roi tîm Dean Saunders 2-1 ar y blaen.

Ond gydag eiliadau yn unig o’r gêm yn weddill fe gafodd Sinclair a Wrecsam eu cosbi gyda Poole yn llwyddo gyda’r gic gosb i’r tîm cartref.